blynyddoedd bod cenhedloedd bychan Ewrop yn symud bron yn anorfod tuag at
hunanlywodraeth. Mae tybio ein bod yn deall hanes cyn iddo ddigwydd pob amser yn
beryglus. Fel ddywed Woody Allen "if you want to make God laugh, tell him your plans".
Yn dilyn referendwn ar bwerau i Senedd Catalwnia ym 2006, lluniwyd Statiwt
Cenedlaethol a’i dderbyn gan Seneddau Catalwnia a Sbaen. Ond byth ers hynny, bu
Llys Cyfansoddiadol Sbaen yn trafod y ddogfen. Diwedd Mehefin eleni,
penderfynwyd gwrthod darnau helaeth o’r ddogfen sy’n sail i Lywodraeth Catalwnia
ers pedair mlynedd. Diddymwyd rhai meysydd datganoledig a gwnaed newidiadau
arwyddocaol eraill.
Mae’r ddedfryd yn gosod yr iaith Catalan ar lefel is na’r Sbaeneg, yn gwrthod y
posibiliad o ddatblygu system cyfiawder annibynnol i Catalynia ac yn gosod
economi’r genedl yn ôl yn nwylo barus Sbaen.
Mae’r Catalwniaid yn bell iawn o dderbyn cwtogi ar eu rhyddid. Ac ychydig dros
wythnos yn ôl, gorymdeithiodd miliwn a hanner trwy Barcelona i fynnu eu hawliau
cenedlaethol. Cerddodd y dorf mwyaf i’r ddinas weld erioed tu ôl i faneri yn
datgan ‘rydym yn genedl’ a ‘ni sy’n penderfynnu’.

Dyma gam bras ymlaen i genedlaetholwyr Catalan ar adeg pan mae referenda lleol o
dros hanner miliwn yn dangos am y tro cyntaf bod cefnogaeth i annibynniaeth ar
yr un lefel a chefnogaeth unoliaethol i aros fel rhan o Sbaen.
Cam gwag o ran llywodraeth Sbaen oedd ceisio gwyro Catalwnia o’i llwybr at
ryddid. Ond mae’r weithred honno hefyd yn dangos i ni, pan fo buddiannau gwlad
fawr dan fygythiad, does dim byd anorfod yn y broses o ddatganoli. Diwedd y gan
yw’r geiniog. Mae’n sefyllfa cyfansoddiadol ni yn bur wahanol wrth gwrs. Ond
beth pe bai Cynulliad â hawl deddfu yn llwyddo i feddu ar ei hadnoddau naturiol
ac arfordirol fel y yr hawliwyd yn Senedd Prydain yr wythnos diwethaf?
http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2010/07/14/queen-s-crown-estates-has-nicked-wales-natural-resources-says-hywel-williams-55578-26847724/
Hyd nes bo ‘franchises’ Cymreig y pleidiau gweidyddol Prydeinig yn dechrau
meddwl amdanyn nhw ei hunian fel sefydliadau ar wahân sy’n atebol i neb ond pobl
Cymru – allwn ni ddim fod yn hyderus y gwna nhw gerdded gyda ni I amddiffyn
buddiannau Cymru pan fo’n cefnau at y wal.
No comments:
Post a Comment