Cymru, Lloegr a'r Llwchwr

Cymru, Lloegr, a'r Llwchwr...





Helo! Croeso i’m blog newydd sy'n cymryd lle http://newyddionmyfanwy.blogspot.com/. Yma byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad. Gwyntyllu fy marn personol y byddaf i fan hyn wrth gwrs!


Hi! Welcome to my new blog which has replaced http://newsmyfanwy.blogspot.com/. I'll be setting the world to right from the perspective of the South West. Some comments may be more general than others but my aim is to talk about everyday issues that directly affect people around me. Needless to say, the views expressed here will be purely mine.

Wednesday 14 July 2010

Gorllewin De Cymru

Pan ydych chi’n sefyll mewn etholiad, mae eich busnes chi yn dod yn fusnes i bawb. Ers mis Mai, mae nifer o bobl wedi cynnig cyngor i mi ar beth i’w wneud nesa. Rwy’n rhyfeddu’n fawr ac yn arswydo braidd at allu rhai o’n haelodau i ragweld seddau a lleoedd ar y rhestrau rhanbarthol a enillir bron fel petaen nhw’n symud darnau mewn gêm o wyddbwyll! Ond y gwir yw nad yw e mor syml â hynny, yn enwedig pan eich bod chi fel fi â’ch traed wedi’u sodro’n sownd yn eich rhanbarth unigryw o Gymru a bod gennych chi ar yr un pryd awydd ac ymrwymiad cryf i geisio sicrhau newid yn fuan ac i wasanaethu’r bobl ‘nawr.

Yn ystod ein hoes, fe fyddwn yn gweld Cymru yn cymryd ei lle priodol ymhlith cenhedloedd y byd. Fe ymunais â Plaid i fod yn rhan o’r ymdrech fawr honno, i wneud yn siwr fod y genedl rydym yn ei chreu yn lle cyfiawn sy’n rhoi lle canolog i degwch, cydraddoldeb a ffyniant. Ond heb ymdeimlad digon cryf o atebolrwydd lleol mae yna berygl y gallai ein llywodraeth roi i ni y math o ryddid sydd heb sylwedd.

Gyda’r prif bleidiau yng Nghymru yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm, mae’n hollbwysig ein bod ni yn y Blaid yn achub ar y cyfle yn Etholiad Cyffredinol Cymru i roi ein stamp ar y pedair blynedd nesa. Dim ond drwy sicrhau bod gennym ni’r tim cryfa posib yn y Senedd y gallwn ni sicrhau mai y Gymru sy’n cael ei chreu ym Mae Caerdydd yw’r Gymru y mae ein pobl ei hangen ac yn ei haeddu. O ran gwasanaethau iechyd lleol, cartrefi gofal a’r addysg orau i’n plant, rhaid i ni gael lleisiau newydd, cryf o blith Plaid fydd yn ychwnaegu at y rheini sydd gyda ni yno eisoes. Mae’r pleidiau eraill o’u pencadlys yn Llundain yn chwarae’r gêm wleidyddol Gymreig yn ddibwrpas. Mae gennym ni yn y Blaid weledigaeth ar gyfer ein gwlad, y weledigiaeth i sicrhau bod cydraddoldeb, brogarwch a gweithredu cymunedol yn dod yn rhan annatod o gorff y Gymru newydd. O ran Plaid, ei gorchwyl yn y pum mlynedd nesa yw gwneud yn siwr fod y broses hynod o greu cenedl newydd yn adlewyrchu profiadau a phroblemau ein cymunedau ac yn mynd i’r afael â nhw.

Nid yw’r system etholiadol bresennol yn un y byddem ni yn ei dewis. Ond mae yn ein galluogi i gymryd camau breision ymlaen pan fyddwn ni’n ennill seddau mewn etholaethau tra’i bod yn golygu hefyd y gallwn ni gynnal presenoldeb cyffredinol ledled Cymru a thyfu fesul dipyn. Gall aelodau ar y rhestr gymryd rhan hanfodol yn y broses o wneud yn siwr fod yr hyn rydyn ni’n ei gynllunio a’i wneud yn ymarferol a bod ein holl ymdrechion o ddefnydd uniongyrchol i’n cymunedau. Ar yr un pryd, gan gadw at yr un briff ledled y rhanbarth, fe allan nhw weithredu fel cyrchfilwyr i sicrhau newid.

Felly, ar ôl ystyried y mater yn ofalus, rwy’ wedi penderfynu beth i’w wneud nesa. Fe fydda i’n rhoi fy enw ymlaen ar gyfer enwebiad fel ymgeisydd rhestr Gorllewin De Cymru yn ein hetholiad cyffredinol yng Nghymru ym mis Mai 2011.

Rwy’n adnabod ac yn deall cymunedau Gorllewin De Cymru. Rwy’n dod o Lanelli a fi oedd ein hymgeisydd yn etholiad cyffredinol diwetha y DU. Wnaethon ni ddim ennill y sedd. Ond mewn etholiad anodd i ni ym mhob rhan o Gymru, yn Llanelli, yn arwyddocaol, fe lwyddon ni i sicrhau “swing” enfawr i Blaid Cymru ac i leihau mwyafrif Llafur yn sylweddol. Rwy’ eisiau parhau i gynnal y momentwm, yr awydd am newid ymhlith ein pobl, y gefnogaeth honno i Plaid sy ar gynnydd.

Rwy eisiau lle yn y Senedd i ymuno yn y dasg ddifrifol o greu cyfraith Gymreig sy’n deillio o brofiadau ein cymunedau ac o’r egwyddorion rydym yn eu rhannu fel plaid. Rwy’ eisiau helpu i adeiladu tim y Blaid, i sicrhau fel aelod rhestr fod y ffocws ar ein polisiau a sut i’w rhoi ar waith. Mae gormod i’w wneud yn y cyfodau anodd o’n blaenau i ddenu cyhoeddusrwydd drwy fod yn ddadleuol.

Ond mae gwaith i’w wneud hefyd i gefnogi’r ymgyrch yn etholaeth Castell-nedd sydd o bwys cenedlaethol. Mae angen i’r blaid gryfhau’r cysylliadau rhwng aelodau unigol a chynrychiolwyr etholedig ledled y rhanbarth, tynnu aelodau i mewn i weithgareddau a deall safbwyntiau pleidwyr ym mhob etholaeth ar draws y rhanbarth.

Mewn anobaith o weld y pethau oedd yn digwydd yng ngwladwriaeth unbleidiol Dwyrain yr Almaen, fe wnaeth y dramodydd Berthold Brecht y sylw coeglyd yma:

“ Mae’r Pwyllgor Canolog wedi colli hyder yn y Bobl. Rhaid newid y Bobl!”

Am ddegawdau, roedd llywodraeth yng Nghymru fel yna hefyd. Ond fel rhan o lywodraeth Cymru’n Un, mae Plaid eisoes wedi dechrau agor ffenestri a drysau yng Nghaerdydd.

Gallwn, fe allwn ni gael gwared â gwleidyddion unigol. Ac mae’n sicr na allwn ni fforddio na chaniatau i ddosbarth gwleidyddol ar wahân ddatblygu yng Nghymru. Ond mae llawer mwy i’w wneud, o fewn Plaid a chan Plaid. Rhaid i’n Llywodraeth ar ôl yr Etholiad fod yn fwy dros bobl a mwy ynghylch pobl ledled Cymru. Dros bobl Gwauncaegurwen, Dyfnant a’r Pil yn ogystal â thros y rheini ym Mae Caerdydd.

No comments:

Post a Comment