Cymru, Lloegr a'r Llwchwr

Cymru, Lloegr, a'r Llwchwr...





Helo! Croeso i’m blog newydd sy'n cymryd lle http://newyddionmyfanwy.blogspot.com/. Yma byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad. Gwyntyllu fy marn personol y byddaf i fan hyn wrth gwrs!


Hi! Welcome to my new blog which has replaced http://newsmyfanwy.blogspot.com/. I'll be setting the world to right from the perspective of the South West. Some comments may be more general than others but my aim is to talk about everyday issues that directly affect people around me. Needless to say, the views expressed here will be purely mine.

Friday 2 July 2010

Gan mai fi yw yr ail feiolin...

Yn ôl ffigurau RhAG, mae 28% o rhieni yn Abertawe am ddanfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac mae'r ffigwr yn neidio i 38% pe bai'r ysgol o fewn cyrraedd cymharol hawdd. Mewn ardaloedd yn y Gorllewin lle mae darpariaeth fwy helaeth o addysg Gymraeg dyw’r broblem ddim yn codi i’r un graddau ond yn Llanelli drefol lle roedd y galw am leoedd mewn un ysgol gynradd (fy alma mater i) dros ddwywaith yr hyn a ddarparwyd, mae diffyg cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg lleol yn effeithio ar ddegau o deuluoedd bob blwyddyn gyda brodyr a chwiorydd yn cael eu gwahanu ac eraill yn colli’r cyfle am addysg Cyfrwng Cymraeg yn gyfan gwbl.

I ddychwelyd i Abertawe, mae'r galw am addysg Gymraeg yno ar ei uchaf yn Nhreforys (39%). Does dim darpariaeth cyfrwng Cymraeg yno o gwbl ac yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae 106 o blant Treforys mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg o fewn wardiau eraill y ddinas. Mae yna gynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg - ond un fydd yn derbyn 15 plentyn y flwyddyn yn unig gan gynyddu i hyd at 190. Er mawr ei hangen, hanner ysgol yw hon ac mi fydd yn diwallu'r angen yn lleol. http://www.rhag.net/storic.php?id=51

O ystyried y gwahaniaeth rhwng y galw a’r darpariaeth, yr un bydd yr hanesion yn Wrecsam a Chasnewydd lle mae’r awdurdodau lleol wedi dechrau asesu’r galw.

Yn ystod dadl deledu ddiwethaf ymgyrch etholiad Cynulliad 2007, trafodwyd sut i ddiwallu'r galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg. Ymrwymodd Plaid Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ac roedd Llafur yn ystyried mai mater ar gyfer awdurdodau lleol yn bennaf oedd darparu lleoedd o fewn addysg cyfrwng Cymraeg... Bydd y safbwynt olaf yn codi gwen ymhlith rhieni Ysgol Treganna yng Ngorllewin Caerdydd sydd wedi colli'r cyfle am ysgol newydd diolch i ymyrraeth Carwyn Jones (http://oclmenai.blogspot.com/2010/05/helynt-treganna-mater-plwyfol.html).

Mae'r Blaid wedi sicrhau bod Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi ei pharatoi.

Da o beth yw hynny. Mae'r strategaeth yn galw ar awdurdodau lleol i asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac ymateb yn gadarnhaol i'r galw. Mae hefyd yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth 14+ ar gael a dewis o bynciau galwedigaethol ar gael drwy'r Gymraeg.

Digon teg. Siom fodd bynnag yw'r ffaith nad oes amlinelliad o'r broses o gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg ar unrhyw lefel. Does dim galw chwaith ar awdurdodau lleol i ddefnyddio'r mecanwaith safonol sydd wedi ei ddatblygu gan Fwrdd yr Iaith er mwyn asesu galw. Mae'r targedau ar gyfer plant sy’n cael eu profi trwy gyfrwng y Gymraeg yn ryfeddol o isel fel prin eu bod yn mesur cynnydd. O gyrraedd y targedau hynod isel hyn, mi allai rhai awdurdodau lusgo'u traed yn lle darparu at lefel y galw...

Dogfen ddefnyddiol yw'r Strategaeth. Mae'n dechrau’r broses o symud at ddarpariaeth gyfartal rhwng y ddau sector addysg yng Nghymru. Ond yn ngeiriau anfarwol Caryl Parry Jones: "wrth edrych arnat ti/ yn syllu arni hi/gwn mai fi yw yr ail feiolin".

Ambell i awgrym felly ar gyfer olynydd y Strategaeth - cryfhau targedi, sicrhau bod y galw yn cael ei fesur yn safonol mewn ardaloedd lle nad y Gymraeg yw prif iaith addysg ac esbonio categoriau ieithyddol ysgolion i rieni mewn ardaloedd lle mae yna ddewis rhwng y sectorau. Rhaid hefyd symud tuag at brosesau mwy uniongyrchol o ddefnyddio lleoedd gwag yn y sector addysg cyfrwng Saesneg i gyflenwi'r galw am addysg Gymraeg o fewn cyrraedd i gartrefi'r plant.

Mae blog Syniadau (http://syniadau--buildinganindependentwales.blogspot.com/2009/05/easing-way-for-expansion-of-wm.html) yn trafod penderfyniad Ysgol y Ffwrnais, Llanelli ac Ysgol Trimsaran i newid yr iaith addysgu i’r Gymraeg blwyddyn wrth flwyddyn. Awgrym Syniadau yw bod newid iaith ysgolion cymunedol yn raddol mewn ardaloedd lle mae darpariaeth addysg yn y ddwy iaith yn sicrhau eu dyfoldol nhw fel ysgolion llai ac yn osgoi’r broses hirwyntog o agor ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd.

Cwestiwn ehangach y mae angen rhoi sylw iddo yn olynydd y Strategaeth yw sut i ddelio gyda'r gyfran o blant sydd yn cael eu colli i addysg Gymraeg wrth symud o un lefel addysgiadol i'r llall. Yn yr un modd, mae angen gwella effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Nid tasg i’w rhoi i athrawon sy’n digwydd siarad Cymraeg ond pwnc penodol y mae athrawon angen hyfforddiant ynddo cyn ei ddysgu. Mae gan blant
gefndiroedd ieithyddol amrywiol a dim ond drwy ymateb i’r sbectrwm ieithyddol hynny y bydd modd creu siaradwyr Cymraeg hyderus.

Fel dywedodd y dyn pan ofynnwyd iddo sut i gyrraedd Dulyn, ‘if I were going to Dublin, I wouldn’t start from here’. Yma rydym ni fodd bynnag a bydd angen dycnwch ac ewyllys gwleidyddol cadarn i sicrhau bod y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyflenwi ac yn cryfhau a bod ysgolion Cymru y dyfodol yn creu cenedl wirioneddol ddwyieithog.

No comments:

Post a Comment