Cymru, Lloegr a'r Llwchwr

Cymru, Lloegr, a'r Llwchwr...





Helo! Croeso i’m blog newydd sy'n cymryd lle http://newyddionmyfanwy.blogspot.com/. Yma byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad. Gwyntyllu fy marn personol y byddaf i fan hyn wrth gwrs!


Hi! Welcome to my new blog which has replaced http://newsmyfanwy.blogspot.com/. I'll be setting the world to right from the perspective of the South West. Some comments may be more general than others but my aim is to talk about everyday issues that directly affect people around me. Needless to say, the views expressed here will be purely mine.

Wednesday 22 September 2010

Dau fedd fu ei ddiwedd e: y LibDems a thorri budd-daliadau yng Nghymru

Yr wythnos diwethaf bues i’n trafod y ffaith fod Llafur yn defnyddio ffigurau camarweiniol ar gyfer swyddi cyhoeddus dan fygythiad - 50,000 yn ol Llafur tra bod yr amcangyfrif as sail ffigurau’r Trysorlys tipyn yn is. Wrth edrych ar ymddygiad gwarthus cyngor Llafur Castell Nedd tuag at ei gweithwyr - bygwth sacio pawb a bwriadu cymryd y mwyfrif yn ol ar delerau gwaeth - mae’n annodd peidio dod i’r casgliad bod Llafur yn bwriadu torri swyddi ychwanegol er mwyn creu cronfa gwario at y dyfodol, ac er mwyn cynyddu drwgdeimlad tuag at y ConDems.

Ond dwi ddim am awgrymu nad oes toriadau dwfn ar y ffordd, nid yn lleiaf toriadau mewn budd-daliadau a pensiynnau a chefnogaeth i bobl ar incwm isel.

Gyda’i gilydd mae’r gwariant yna yn cyfri am oddeutu 40% o’r arian cyhoeddus sy’n dod i Gymru. Dyma arian sydd dan fygythiad gwirioneddol ar ol datganiad y Canghellor ei fod am weld gostyngiad o £15bn mewn cyllid lles dechre’r mis. Gan fod gwariant ar raglenni lles yng Nghymru 115% yn uwch na’r cyfartaledd, byddwn yn wynebu toriadau o oddeutu £830 million y flwyddyn. Mae’r arian yma ar hyn o bryd yn cael ei wario yn yr economi leol – does gan pobl dlawd fawr o obaith o gynilo. Ac fe’i collir i’r union economi honnno pe gweitheredir y toriadau.

Yn ysgrifennu yn y Times Dydd Gwener, hawliodd Nick Clegg y byddai’r toriadau yn rhai ‘teg’. Ond yr hyn nad yw e’n ei ddeall - neu nad yw am ddeall - yw bod gofal cymdeithasol eisioes mewn argyfwng. O dan Llafur roeddwn eisioes yn gweithio gyda phobl a oedd yn wynebu colli budd-daliadau yr oeddent eu hangen, ac wedi eu derbyn ers blynyddoedd. Roedd Llafur yn newid y meini prawf ar gyfer hawlio cefnogaeth – symyd y pyst hanner ffordd drwy’r gem mewn geiriau eraill. Budd-daliadau ydy rhain sy’n help at gadw car pan na fedr rhywun anabl ddal bws, neu fel arall arian sy’n sicrhau cymorth gyda gwaith tŷ a galluogi pobl hŷn neu phobl â salwch tymor hir i aros yn eu cartrefi.

Yn ôl Clegg, mae cymdeithas teg yn un “lle mae pobl yn gallu creu bywyd gwell i’w hunain gyda chefnogaeth gan Lywodraeth a’r gymuned ehangach”.

Heb gar? Heb gymorth i aros yn eu cartrefi?

Neithiwr apeliodd Clegg ar ei blaid i balu ‘mlaen ‘er lles y wlad’ (Prydain, cyn bo' chi'n gofyn) ac ar eu lles hwy eu hunain. Mae bellach hefyd yn datgan y byddai’n ystyried clymbleidio gyda Llafur y tro nesa. Jiw, jiw, wel dyna ni. Doedd fawr o wahaniaeth rhwng agwedd y Toris a Llafur at les ta pun…

Mae gan Moi Pari englyn sydd wedi bod yn mynd trwy fy mhen trwy’r dydd.

Falle dylwn ei ddanfon at Mr Clegg..?

Beddargraff Consuriwr

Mor slic y bu’r tric pob tro, – rhoi ei hun
Mewn bocs pren i’w lifio,
Ond unwaith, method weithio;
Dau fedd fu ei ddiwedd o!

Mae Moi’n gwerthu ’Pentwr o 100 o englynion Moi’ - £3 (neu fwy) yr elw at Blaid Cymru – copiau gan yr awdur 01352 713603 – Bargen – peth prin iawn yng Nghymru Clegg Cameron a Hain

No comments:

Post a Comment