Cymru, Lloegr a'r Llwchwr

Cymru, Lloegr, a'r Llwchwr...





Helo! Croeso i’m blog newydd sy'n cymryd lle http://newyddionmyfanwy.blogspot.com/. Yma byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad. Gwyntyllu fy marn personol y byddaf i fan hyn wrth gwrs!


Hi! Welcome to my new blog which has replaced http://newsmyfanwy.blogspot.com/. I'll be setting the world to right from the perspective of the South West. Some comments may be more general than others but my aim is to talk about everyday issues that directly affect people around me. Needless to say, the views expressed here will be purely mine.

Tuesday 31 August 2010

Y bwlch: ystyried cyfleuon y Blaid dros y naw mis nesaf

Dim ond pythefnos yn ôl 'roeddwn yn blogio am broblemau trychinebus y Rhyddfrydwyr a hwythau wedi toddi i fewn i glymblaid gyda'r Toriaid yn Llundain. Soniais a hefyd am ystrywiau Llafur yn chwarae bod yn wrthblaid. (Fe gofiwch i Lafur wrthod cefnogi cynnig seneddol Plaid Cymru i ddileu penderfyniad cywilyddus y ConDems i godi Treth ar Werth).

Roedd y Rhyddfrydwyr yn amlwg yn dioddef yn etholiadol - o bôl piniwn ICM. A dyma ni bellach yn cael cadarnhad ym mhôl Cymru gyfan gan ITV.

Mae'r pôl yma yn holi yn benodol am fwriadau pleidleisio pobl Cymru yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

O ran y bleidlais rhestr, mae'n cadarnhau yr hyn roeddwn yn ei ddweud gyda'r Rhyddfrydwyr bellach lawr at hanner lefel eu cefnogaeth ym mis Mai (20% i 10%). Felly mae'n bosibl y bydd yr etholiad nesaf yn rhoi'r ergyd farwol gwbl haediannol iddynt, ac y gwelwn ddiflaniad y giwed diwerth yma fel nerth gwleidyddol cenedlaethol. Dyna fyddai'r ateb gorau i frolio gwag Kirsty Williams ei bod am ennill 31 sedd yn yr etholiad nesaf.

Yn ail, mae chwarae bod yn wrthblaid yn Llundain wedi rhoi hwb dros dro i bleidlais Llafur yng Nghymru. Y nhw cofiwch yw rhieni bedydd y glymblaid ConDem gan iddynt wrthod trafod clymblaid flaengar gyda'r Blaid a'r SNP. Annodd darogan a fydd y fantais yma yn parhau wrth i’r ras arweinyddol droi Llafur fwy-fwy o gwmpas gwrthod neu dderbyn gwaddol Blair (gweler y ddolen isod). Ond y mae'n annodd gen i weld Llafur dan yr un o'r Millbands yn wrthblaid effeithiol, a phrin y byddent yn sefyll dros fuddiannau Cymru a map Lloegr gyfforddus mor las …

'Un pol na wna etholiad ' fel mae nhw’n dweud! Yr hyn sydd yn ddiddorol am bôl ITV felly yw fod y gefnogaeth i Lafur a'r Rhyddfrydwyr fel eu gilydd ar y ffordd i lawr ers y mis diwethaf. Yn yr un modd mae pleidlais Plaid Cymru ar y rhestrau ac yn yr etholaethau fel ei gilydd wedi cynyddu i lefel uwch na chafwyd yn etholiad 2007 - ac mae ein pleidlais ni ar y blaen i'r Toriaid.

Momentwn yw popeth mewn gwleidyddiaeth a chyda gwrthwynebiad i bwerau pellach i'r Cynylliad yn meddalu a phosibiliad da o ennill y refferendwm ar bwerau pellach ym mis Mawrth,rydym fel Plaid mewn sefyllfa ffafriol iawn.

Nid dyma'r lle i sôn am brosesau dewis mewnol y Blaid. Ond rhad i mi ddweud fod gennym griw arbennig o dalentog o ddarpar ymgeiswyr ac mae'r cysylltiad agos tu hwnt sydd yn datblygu rhwng ymgeiswyr ac ymgyrchwyr y Blaid wedi creu potensial rhyfeddol o addawol prin naw mis o’r etholiad.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr hystingiau ar gyfer rhestrau'r Cynulliad yn gyfle gwych i ymgeisyddion ac aelodau gydio yn y cyfle sydd o'n blaenau ni i sefyll dros fuddiannau Cymru nawr a dechre’r gwaith o adeiladu Cymru tecach a mwy ffyniannus yn y dyfodol. Byddwn yn ethol y grwp cryfaf, mwyaf talentog a mwyaf penderfynnol i Blaid Cymru ddanfon i'n Senedd ni erioed.

Amdani!

No comments:

Post a Comment