Cymru, Lloegr a'r Llwchwr

Cymru, Lloegr, a'r Llwchwr...





Helo! Croeso i’m blog newydd sy'n cymryd lle http://newyddionmyfanwy.blogspot.com/. Yma byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad. Gwyntyllu fy marn personol y byddaf i fan hyn wrth gwrs!


Hi! Welcome to my new blog which has replaced http://newsmyfanwy.blogspot.com/. I'll be setting the world to right from the perspective of the South West. Some comments may be more general than others but my aim is to talk about everyday issues that directly affect people around me. Needless to say, the views expressed here will be purely mine.

Friday 20 August 2010

Gwaddod 100 niwrnod y ConDems

100 diwrnod ar ôl ffurfio'r glymblaid ConDem, mae Blog Menai yn trafod pôl piniwn gan ICM sydd yn dangos cefnogaeth y Torïaid ar yr un lefel â Llafur gyda'r cynnydd sylweddol ym mhleidlais Llafur yn dod bron yn gyfan gwbl o gyn-gefnogwyr y Rhyddfrydwyr. Dyma'r tro cyntaf i Lafur ddod yn gyfartal â'r Toriad ers i Brown orymdeithio ei filwyr i dop y bryn ac yna gwrthod galw etholiad yn Hydref 2007.

Gyda phleidlias graidd sy'n dibynnu ar weithwyr sector cyhoeddus, mae'r Rhyddfrydwyr yng Nghymru yn wynebu etholiad pryd gall eu pleidlais ostwng o dan 10%.

Er gwario ffortiwn mewn seddau fel Gorllewin Abertawe, y mae'n ddigon posib mai dyna fydd diwedd eu hanes yng Nghymru.

Annodd fodd bynnag yw barnu a yw'r pôl hwn yn darogan tueddiad a all effeithio ar ganlyniad Etholiad Cyffredinol Cymru. Yma wrth gwrs, Llafur oedd yn fuddugol noson yr etholiad, a hynny i raddau helaeth am iddyn nhw drwy ddadlau mai dim nhw allai gadw'r Torïaid allan. O fewn dyddiau wrth gwrs Llafur ddewisodd ildio awennau'r llywodraeth i'r Toriaid, yn hytrach na thrafod gyda'r Blaid a'r SNP. Nhw felly agorodd y drysau i doriadau eithafol ac ideolegol y glymbliad a chynlluniau preifateiddio gwasanaethau a fydd yn peryglu miloedd o swyddi Cymreig.

Wrth gwrs mae angen talu'r ddyled yn ôl. Ond pwy all wadu erbyn hyn bod stwffio pocedau cwmniau preifat ag arian cyhoeddus yn arwain at wasanaethau gwaeth, gwaethygu amodau gwaith a thorri swyddi? A all unrhyw un sy'n gwybod maint ein dibynniaeth ar y sector cyhoeddus wadu bydd y toriadau yn ddyfnach a'i heffaith lawer yn fwy dinistriol ar yr economi gyfan yma yng Nghymru?

Y tu ôl y wenau pert a wynebau llyfn y Prif Wenidog a'i ddirprwy, mae'n rhaid bod y canfyddiad bod Llafur wedi dewis bod yn wrthblaid. Wedi dewis peidio ag arbed ein cymunedau rhag gwaethaf y toriadau, a hynny er mwyn ennill budd etholiadol. Mae Llafur yn cael hwyl garw ar chwarae bod yn wrthblaid yn San Steffan. Ond chwarae maen nhw - nid gweithredu...

Cofiwn wrth gwrs i Lafur wrthod cefnogi cynnig Plaid Cymru a'r SNP i wrthod cynyddu TAW, a hynny yn unig am mai cynnig Plaid Cymru oedd e.

Wrth gerdded Cwm Nedd a Chwm Tawe dros yr wythnos diwethaf yn siarad â Phleidwyr, rwy'n gweld agweddau yn caledu a'r dicter at Lafur yn cynyddu fel dwr y tu ôl i argae.

Dyma Lywodraeth sydd am wrthod eu cyfrifoldebau at y gwanaf ohonom a Llafur yw penseiri'r Llywodraeth honno.

Bydd Plaid Cymru yn mynnu atebion yn y senedd gan herio'r glymblaid Brydeinig mewn difrif - nid mewn pantomein. Ar lawr gwlad yn Nghymru ein gorchwyl ni yn y Blaid fydd i gyflwyno gweledigaeth gadarn o Gymru ffyniannus a theg. Cymru fydd yn fwy-fwy gyfrifol dros ei buddiannau ei hun ac a fydd yn llunio ei pholïsiau yn unol â'n traddodiad o sefyll gyda'n gilydd dros bawb.

Ar fenthyg y cafodd Llafur a'r Rhyddfrydwyr ddegau o filoedd o bleidleisiau mis Mai. Un peth dylient ei ddeall - os na delir llog y ddyled, mae'n rhaid talu'r cyfan yn ol!

Yng Ngorllewin Abertawe gwaddod 100 niwrnod y Lib Dems a'r Torïaid yw ofn am swyddi. Yng Nhastell Nedd, dicter at Lafur am daflu'r buddiannau'r gwanaf i'w ddwylo annhyner nhw.

Con Dem? Na, dim ond Con oedd hi.

No comments:

Post a Comment